Abraham Mathews

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Un o arloeswyr Y Wladfa yn Mhatagonia oedd y Parchedig Abraham Mathews (1832 - 1899).

Gamed ef yn Llanidloes, ac astudiodd yng Ngholeg Annibynnol y Bala, lle roedd Michael D. Jones yn brifathro. Daeth yn weinidog Horeb, Llwydcoed, Aberdâr, yn 1859. Yn 1865 roedd yn un o'r fintai a hwyliodd i Batagonia ar y Mimosa. Roedd y fintai hefyd yn cynnwys ei wraig Gwenllian (née Thomas) a'u merch un oed, Annie, ac eraill o ardal Aberdâr; ffurfiai'r rhain un o'r carfannau mwyaf ymhlith yr ymfudwyr, yn dystiolaeth i ddylanwad Mathews.

Bu Abraham Matthews yn gweithio fel gweinidog a ffermwr yn Y wladfa am weddill ei oes, heblaw am ymweliadau a Chymru a'r Unol Daleithiau. Yn 1874, gallodd drefnu mintai o ymfudwyr o bob un o'r ddwy wlad. Ysgifennodd lyfr ar hanes y Wladfa, Hanes y Wladfa Gymreig (Aberdâr).