Abertridwr (Caerffili)
Pentref ym mwrdeisdref sirol Caerffili yw Abertridwr, a leolir 3 milltir i'r gogledd-orllwein o dref Caerffili ym Morgannwg.
Gwaith glo [golygu]
Bu'n bentref glofaol gynt. Agorwyd Glofa Windsor yn 1898 gan y Windsor Colliery Co Ltd. Roedd siafftiau aer danddaear yn ei gysylltu â Glofa Senghennydd.
Ar 1 Mehefin, 1902, dymchwelodd platfform yn y pwll glo, gan fwrio naw o lowyr i 25 troedfedd o ddŵr yn y swmp. Llwyddodd tri o'r dynion i ddianc trwy afael ar ddarnau pren ond collodd y chwech arall eu bywydau.
Ym 1918 bu 1,923 o ddynion yn gweithio yn y pwll; erbyn 1945 roedd y nifer wedi syrthio i 850. Ym 1974 unwyd y glofa â glofa Nantgarw fel un uned, ond caewyd yr hen Lofa Windsor ym mis Mawrth 1975. Heddiw mae ystâd tai Ty'n y Parc ar y safle.
Enwogion [golygu]
- Peter Prendergast, arlunydd.
Aberbargoed · Abercarn · Abertridwr · Argoed · Bargoed · Bedwas · Bedwellte · Brithdir · Caerffili · Cefn Bychan · Cefn Hengoed · Coed-duon · Crymlyn · Cwmcarn · Chwe Chloch · Draethen · Fochriw · Gelli-gaer · Y Groes-wen · Hengoed · Llanbradach · Machen · Maesycwmer · Nelson · Pengam · Penpedairheol · Pontlotyn · Pontllan-fraith · Pont-y-Meistr · Rhisga · Rhydri · Rhymni · Senghennydd · Trecelyn · Tredegar Newydd · Tretomos · Waterloo · Wyllie · Ynysddu · Ystrad Mynach