Abel Thomas

Oddi ar Wicipedia
Abel Thomas
Abel Thomas AS
Ganwyd1848 Edit this on Wikidata
Bu farw23 Gorffennaf 1912 Edit this on Wikidata
Abertawe Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, bargyfreithiwr Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 30ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 29fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 28ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 27ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 26ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 25ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 24ain Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Ryddfrydol Edit this on Wikidata

Gwleidydd a bargyfreithiwr Cymreig oedd Abel Thomas (1848 - 23 Gorffennaf 1912).

Bywyd Personol[golygu | golygu cod]

Roedd yn fab i'r Parch Theophilus Evan Thomas o Trehale, Sir Benfro. Ym 1875, priododd Bessie Polak, merch Samuel Polak dilledydd, bu iddynt mab a dwy ferch. Bu farw Mrs Thomas ym 1890 ychydig wythnosau ar ôl i Abel cael ei ethol i'r Senedd[1]

Fe'i haddysgwyd yng Ngholeg Clifton, Bryste a Phrifysgol Llundain.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Galwyd ef i'r bar yn y Deml Ganol ym 1874 a bu'n gweithio fel bargyfreithiwr yng Nghylchdaith De Cymru ac yn Llundain. Fe'i dyrchafwyd yn Gwnsler y Frenhines ym 1892[2] ac yn feinciwr ym 1900[3]. Bu'n gwasanaethu fel Ynad Heddwch ar fainc Sir Benfro[4].

Gyrfa Wleidyddol[golygu | golygu cod]

Gwasanaethodd fel Aelod Seneddol Rhyddfrydol etholaeth Dwyrain Sir Gaerfyrddin o 1890 ei farwolaeth ym 1912.

Ym mis Mai 1892 galwodd cymdeithas Ryddfrydol Llandeilo am bleidlais o ddiffyg hyder yn erbyn Thomas. Cwyn pobl Llandeilo oedd bod yr AS yn pledio cefnogaeth i'r achos dirwest wrth ymofyn pleidleisiau ond yn fodlon amddiffyn bragwyr a thafarnwyr yn y llysoedd barn. Llwyddodd i fodloni ei feirniaid trwy egluro bod dyletswydd gyfreithiol ganddo i amddiffyn unrhyw gleient, hyd eithaf ei allu, heb adael i'w rhagfarnau personol ymyrryd yn ei waith.[5]

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw'n sydyn o drawiad ar y galon yng Ngwesty'r Metropol, Abertawe, lle fu'n aros wrth fynychu brawdlys Morgannwg[6].

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "MARWOLAETH MRS ABEL THOMAS - Tarian Y Gweithiwr". Mills, Lynch, & Davies. 1890-08-21. Cyrchwyd 2017-11-26.
  2. "NEW QUEENS COUNSEL - The Carmarthen Journal and South Wales Weekly Advertiser". J. Daniel. 1892-08-12. Cyrchwyd 2017-11-26.
  3. Nottingham Evening Post 23 Gorffennaf 1912: Death of Mr Able Thomas
  4. "MEETING OF THE LIBERAL COUNCIL - The Cardiff Times". David Duncan and William Ward. 1890-08-02. Cyrchwyd 2017-11-26.
  5. "EAST CARMARTHEN LIBERAL ASSOCIATION - The Carmarthen Journal and South Wales Weekly Advertiser". J. Daniel. 1892-06-17. Cyrchwyd 2017-11-26.
  6. Western Gazette 26 Gorffennaf 1912; Death of Mr Abel Thomas KC MP
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
David Pugh
Aelod Seneddol Dwyrain Caerfyrddin
18901912
Olynydd:
Josiah Towyn Jones