Abel Jones (Y Bardd Crwst)

Oddi ar Wicipedia
Abel Jones
Ganwyd1829, 1830 Edit this on Wikidata
Llanrwst Edit this on Wikidata
Bu farw1901 Edit this on Wikidata
Llanrwst Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCymru, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, ysgrifennwr, canwr Edit this on Wikidata

Bardd Cymraeg oedd Abel Jones (18291901), a adwawenir fel arfer wrth ei enw barddol Y Bardd Crwst. Roedd yn perthyn i'r to olaf o'r baledwyr gwerinol a grwydrai drwy Gymru yn datgan eu cerddi mewn ffeiriau.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Brodor o blwyf Llanrwst yn yr hen Sir Ddinbych (yn Sir Conwy erbyn hyn) oedd Abel Jones, lle y'i ganed yn 1829. Daeth yn faledwr a grwydrai Gymru benbaladr o'r gogledd i'r de, yn canu yn y ffeiriau a'r tafarnau gan ennill ei fywoliaeth drwy ddatgan neu ganu ei faledi a gwerthu taflenni ohonynt. Er ei fod yn frodor o'r gogledd roedd yn arbennig o boblogaidd yn y de ac roedd yn enwog yn ffeiriau Gwent a Morgannwg yn ail hanner y 19eg ganrif. Bu farw yn 1901.[1]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru).

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]


Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.