Abdullah ibn al-Mu'tazz

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Bardd Arabeg canoloesol oedd Abdullah ibn al-Mu'tazz (861 - 908). Roedd yn aelod o'r frenhinllin Abbasid, califfiaid Baghdad.

Cafodd ei eni yn Samarra (yng ngogledd Irac heddiw), yn or-or-ŵyr i'r califf mawr Harun al-Rashid. Roedd yn gyfnod o gynllwyniau yn y llys brenhinol a phan lofruddiwyd ei dad ffoes yr al-Mu'tazz ifanc i Fecca am noddfa gyda'i nain. Dychwelodd i Faghdad a thyfodd i fyny i fod yn llenor disglair ac ysgolhaig llenyddol, gan osgoi gwleidyddiaeth y llys. Ond roedd rhai pobl eisiau iddo fod ar yr orsedd i geisio rhoi diwedd ar yr ansefydlogrwydd yn y deyrnas. Cytunodd al-Mu'tazzi yn y diwedd, yn erbyn ei ewyllys, yn 908. Rheolodd am ddiwrnod a noson yn unig cyn ffoi am ddiogelwch. Cafodd ei ddal a'i lindagu.[1]

Roedd yn fardd medrus a edmygid yn fawr gan ei gyfoeswyr. Ysgrifennodd astudiaeth ar farddoniaeth Arabeg glasurol, y Kitab al-Badi. Yn ei gerddi mae crefft al-Mu'tazz yn dwyllodrus o syml. Mae'n canolbwyntio ar gyfuno delweddau trawiadol â metaffor annisgwyl. Mwynheai fywyd i'r eithaf a does ganddo ddim cywilydd mewn canu pleserau'r cnawd a gwin, a gwneud hynny yn y modd mwyaf soffistigedig, bydol a chraff. Eironi a llygad am harddwch a lliw sy'n nodweddu ei farddoni.[2]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. G.B.H. Wightman ac A.Y. al-Udhari (cyf.), Birds Through a Ceiling of Alabaster[:] Three Abbasid poets (Penguin, Llundain, 1975).
  2. G.B.H. Wightman ac A.Y. al-Udhari (cyf.), Birds Through a Ceiling of Alabaster[:] Three Abbasid poets (Penguin, Llundain, 1975).
Planned section.svg Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.