Abdullah ibn al-Mu'tazz

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Bardd Arabeg canoloesol oedd Abdullah ibn al-Mu'tazz (861 - 908). Roedd yn aelod o'r frenhinllin Abbasid, califfiaid Baghdad.

Cafodd ei eni yn Samarra (yng ngogledd Irac heddiw), yn or-or-ŵyr i'r califf mawr Harun al-Rashid. Roedd yn gyfnod o gynllwyniau yn y llys brenhinol a phan lofruddiwyd ei dad ffoes yr al-Mu'tazz ifanc i Fecca am noddfa gyda'i nain. Dychwelodd i Faghdad a thyfodd i fyny i fod yn llenor disglair ac ysgolhaig llenyddol, gan osgoi gwleidyddiaeth y llys. Ond roedd rhai pobl eisiau iddo fod ar yr orsedd i geisio rhoi diwedd ar yr ansefydlogrwydd yn y deyrnas. Cytunodd al-Mu'tazzi yn y diwedd, yn erbyn ei ewyllys, yn 908. Rheolodd am ddiwrnod a noson yn unig cyn ffoi am ddiogelwch. Cafodd ei ddal a'i lindagu.

Roedd yn fardd medrus a edmygid yn fawr gan ei gyfoeswyr. Ysgrifennodd astudiaeth ar farddoniaeth Arabeg glasurol, y Kitab al-Badi. Yn ei gerddi mae crefft al-Mu'tazz yn dwyllodrus o syml. Mae'n canolbwyntio ar gyfuno delweddau trawiadol â metaffor annisgwyl. Mwynheai fywyd i'r eithaf a does ganddo ddim cywilydd mewn canu pleserau'r cnawd a gwin, a gwneud hynny yn y modd mwyaf soffistigedig, bydol a chraff. Eironi a llygad am harddwch a lliw sy'n nodweddu ei farddoni.

[golygu] Ffynhonnell

  • G. B. H. Wightman a A. Y. al-Udhari (cyf.), Birds Through a Ceiling of Alabaster[:] Three Abbasid poets (Penguin, Llundain, 1975)
Book template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill