Abdullah I, brenin Iorddonen
Oddi ar Wicipedia
Brenin Gwlad Iorddonen o 1946 hyd 1951 oedd Abdullah I bin al-Hussein (Arabeg: عبد الله الأول بن الحسين , Chwefror 1882 – 20 Gorffennaf 1951) ac yn Emir Transjordan o 1921 hyd 1946. Roedd yn un o feibion Hussein bin Ali, Sharif Mecca, ac yn rhan o'r Gwrthryfel Arabaidd. Cafodd ei fradlofruddio tra'n ymweld â Mosg Al-Aqsa yn Jeriwsalem.[1] Cafodd ei olynu gan ei fab Talal.
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ (Saesneg) Assassination of King Abdullah. The Guardian (21 Gorffennaf 1951). Adalwyd ar 11 Awst 2012.
Darllen pellach [golygu]
- Abdullah. Memoirs of King Abdullah of Transjordan (Llundain, Jonathan Cape, 1950). Cyfieithwyd gan G. Khuri.
