Abdullah, brenin Sawdi Arabia
Abdullah, brenin Sawdi Arabia | |
---|---|
Ganwyd | 1 Awst 1924 Riyadh |
Bu farw | 23 Ionawr 2015 Riyadh |
Dinasyddiaeth | Sawdi Arabia |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Brenhinoedd Sawdi Arabia, Crown Prince of Saudi Arabia, Minister of National Guard, Prif Weinidog Sawdi Arabia |
Tad | Ibn Saud |
Mam | Fahda bint Asi Al Shuraim |
Priod | Hessa bint Trad Al Shaalan, Alanoud Al-Fayez, Aida Fustuq |
Plant | Mutaib bin Abdullah, Khaled bin Abdullah, Adila bint Abdulla Al Saud, Faisal bin Abdullah, Abdulaziz bin Abdullah, Mishaal bin Abdullah Al Saud, Turki bin Abdullah Al Saud, Abeer bint Abdullah |
Llinach | Llinach Saud |
Gwobr/au | Marchog Urdd y Cnu Aur, Marchog Groes Fawr Urdd y Baddon, Urdd yr Eryr Gwyn, Gwobr y Brenin Faisal am Wasanaeth i Islam, Uwch Ruban Urdd Cenedlaethol y Cedrwydd, Marchog Uwch-Groes Urdd Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, Gwobr y Groes Uwch Genedlaethol o Groes y De, Cadwen Frenhinol Victoria, Urdd Abdulaziz al Saud, Order of State of Republic of Turkey, Gorchymyn Cyffredinol San Martin, Nishan-e-Pakistan, Urdd Umayyad, Urdd y Wên, Allwedd Aur Madrid, Dostyk Order of grade I, Uwch-seren Datganiad o Wasanaeth i Weriniaeth Awstria, Grand Collar of the Order of Good Hope, Uwch Groes y Marchog gyda Choler Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, Urdd y Baddon, Urdd y Cnu Aur, Order of Good Hope, Addurn er Anrhydedd am Wasanaeth i Weriniaeth Awstria, Urdd Croes y De, National Order of the Cedar, Istiglal Order, Uwch Groes Rhosyn Gwyn y Ffindir gyda Choler, Gwobr Blaidd Efydd |
Brenin Sawdi Arabia ers 2005 oedd Abdullah bin Abdulaziz Al Saud (Arabeg: عبدالله بن عبدالعزيز آل سعود, ‘Abd Allāh ibn ‘Abd al-‘Azīz Āl Sa‘ūd, ynganiad Arabeg Najdi: [ʢæbˈdɑɫ.ɫɐ ben ˈʢæbdæl ʢæˈziːz ʔæːl sæˈʢuːd]; (1 Awst 1924 – 23 Ionawr 2015). Rhwng 2005 a 2015 ef hefyd oedd 'Ceidwad y Ddwy Fosg Sanctaidd'. Cafodd ei wneud yn frenin ar 1 Awst 2005 yn dilyn marwolaeth ei hanner brawd Y Brenin Fahd.
Yn ôl y cylchgrawn Forbes, yn 2013, Abdullah oedd yr 8fed person mwyaf pwerus yn y byd.[1][2]
Roedd Abdullah, fel ei hanner brawd Fahd, yn un o 300 o feibion y Brenin Abdulaziz (neu Ibn Saud), tad y Sawdi Arabia fodern. Cynhaliuodd sawl swydd gwleidyddol trwy gydol ei fywyd; yn 1961 daeth yn Faer Mecca, ei swydd swyddogol cyntaf.[3] Yn 1962, fe'i penodwyd yn arweinydd Gwarchodlu Cenedlaethol Sawdi Arabia. Pan wnaethpwyd ef yn frenin roedd a bu hefyd yn Weinidog dros Amddiffyn. Pan etifeddodd Fahd yr orsedd fe'i gwnaed yn Dywysog y wlad.
Yn 1995 fe gafodd Fahd drawiad a gwnaed Abdullah yn arweinydd de facto Sawdi Arabia gan eistedd ar yr orsedd ddeng mlynedd yn ddiweddarach.
Bu farw o niwmonia gan adael tua 35 o blant ar ei ôl a chyfoeth o dros US$18 biliwn.
Cysylltiadau[golygu | golygu cod]
Yn ystod ei yrfa bu ei gysylltiadau gydag arweinyddion y Gorllewin yn gadarn a phrynnodd gwerth biliynau o bunnoedd o arfau gan Unol Daleithiau America a'r Deyrnas Gyfunol.[4] He also gave women the right to vote and to compete in the Olympics.[5] Cadwodd y status quo yn ystod protestiaidau yn wlad a oedd yn rhan o'r Gwanwyn Arabaidd.[6] Yn Nhachwedd 2013, cyhoeddodd y BBC y gallai Sawdi Arabia gael gafael ar arfau niwclear ar amrantiad, o Bacistan, oherwydd eu cysylltiadau agos a hir gyda'r wlad.[7]
Gwaddol[golygu | golygu cod]
Un gwaddol gan y Brenin Abdullah oedd enwi dinas, neu maestref newydd yng Ngwlad Iorddonen ar ei ôl. Adeiladwyd Dinas Breswyl y Brenin Abdullah Ben Abdul Aziz Al Saud ger dinas Zarca (ail ddinas fwyaf y wlad) ar ôl y brenin oherwydd ei rodd o milynau o ddoleri i adeiladu'r lle newydd i gartrefi y tŵf rhyfeddol yn y boblogaeth yn rhannol yn sgil ffoaduriaid o Balesteina.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ "Forbes ranks Saudi King Abdullah 8th most powerful person". Aawsat. 1 Tachwedd 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-01-09. Cyrchwyd 23 Ionawr 2014.
- ↑ "The World's Most Powerful People". Forbes.
- ↑ "Who's who: Senior Saudis". BBC. 30 Hydref 2007. Cyrchwyd 27 Ebrill 2012.
- ↑ US confirms $60bn Saudi arms deal Al Jazeera 20 October 2010
- ↑ Saudi Arabia profile BBC
- ↑ Saudi Arabia: Fundamental change? Archifwyd 2014-01-29 yn y Peiriant Wayback. Al Jazeera 19 Hydref 2010
- ↑ Saudi nuclear weapons 'on order' from Pakistan BBC
Rhagflaenydd: Fahd |
Brenin Sawdi Arabia 1 Awst 2005 - 23 Ionawr 2015 |
Olynydd: Salman |