Abaty Ynys Bŷr

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Mae'r erthygl yma yn trafod yr abaty presennol ar yr ynys. Am yr hen briordy, gweler Priordy Ynys Bŷr.

Daeth mynachod Benedictaidd Anglicanaidd i Ynys Bŷr yn 1906, ac adeiladwyd yr abaty presennol yn 1920, dan gyfarwyddyd yr Abad Aelred Carlyle, gan y pensaer John Coates-Carter o Benarth.

Yn 1913 trôdd y gymuned Anglicanaidd i'r Eglwys Gatholig, ac yn 1926 gwerthasant yr abaty i Urdd y Sistersiaid. Symudasant hwy i mewn i'r abaty yn 1929, ac maent yn parhau yno.