Abaty Sligo

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Abaty Sligo.
Rhan o glwysdy Abaty Sligo.

Mynachlog a sefydlwyd gan urdd y Dominiciaid yw Abaty Sligo (Gwyddeleg: Mainistir Shligigh), a leolir yng nghanol tref Sligo yn Swydd Sligo, Iwerddon. Er mai fel 'Abaty' y cyfeirir ato fel rheol, brodordy (friary) oedd mewn gwirionedd.

Cafodd ei sefydlu yn 1252 neu 1253 gan Maurice Fitzgerald, Ail Farwn Offaly. Un o'r Normaniaid yn Iwerddon oedd y Maurice hwn. Cafodd dir helaeth yn ardal Sligo a'r cylch am ei ran yng ngoresgyniad Connacht gan Richard de Burgo. Roedd urdd y Dominiciaid yn estron i draddodiad Cristnogol Iwerddon ond er gwaethaf y ffaith fod y tir o'i gwmpas wedi newid dwylo sawl gwaith rhwng Gwyddelod Connacht, y Normaniaid a hefyd, yn nes ymlaen, Goron Lloegr, llwyddodd yr abaty i oroesi heb fawr niwed. Ond fe'i llosgwyd trwy ddamwain, gyda thref fechan Sligo, yn 1414. Fe'i codwyd o'r newydd bron gan yr Abad Bryan MacDonagh. Er gwaethaf ei darddiad estron, daeth yn rhan o fywyd crefyddol gwŷr Connacht a chladdwyd sawl aelod o brif deuluoedd Gwyddelig y fro yno.

Adeg diddymu'r mynachlogydd, eithriwyd Abaty Sligo o'r drefn yn dilyn apêl gan y teulu O'Connor at y Frenhines Elisabeth I o Loegr, ond ar yr amod fod y brodyr yn troi'n offeiriaid seciwlar. Dioddefodd adeilad yr abaty ddifrod sylweddol yn 1595-99 pan gymerwyd llawer o'r pren i adeiladu peiriant gwarchae gan George Bingham er mwyn ymosod ar gastell Sligo. Yn 1641 llosgwyd yr abaty eto, a'r dref hefyd, gan un o gadfridogion Oliver Cromwell, Syr Frederick Hamilton. Dechreuwyd defnyddio'r abaty fel chwarel am gyfnod yn y 18fed ganrif ond fe'i achubwyd gan offeiriad lleol. Heddiw mae'r adfeilion yng ngofal Oidhreacht Éireann.

Ffynhonnell[golygu]

  • Mainistir Shligigh. Sligo Abbey (Séadchomharthaí Náisiúnta na hÉireann, Dulyn). Llawlyfr yr abaty.

Dolenni allanol[golygu]

  • Abaty Sligo ar wefan Oidhreacht Éireann (Heritage Ireland)