Abaty Saint-Évroult

Oddi ar Wicipedia
Abaty Saint-Évroult
Mathabaty Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 11 g Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSaint-Evroult-Notre-Dame-du-Bois Edit this on Wikidata
GwladBaner Ffrainc Ffrainc
Cyfesurynnau48.7906°N 0.4639°E Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethmonument historique classé Edit this on Wikidata
Manylion
Rhan o adfeilion yr abaty

Abaty Benedictaidd yw Abaty Saint-Évroult (Ffrangeg: Abbaye de Saint-Évroult), a leolir yng nghymuned Saint-Evroult-Notre-Dame-du-Bois yn département Orne, yn Normandi, Ffrainc.

Dywedir i fynachlog gael ei sefydlu yno gan Sant Évroult (m. 706). Ailsefydlwyd y fynachlog gan y Benedictiaid tua'r flwyddyn 1050 gyda chefnogaeth sawl teulu aristocrataidd.

Yn St Evroul y lluniodd Orderic Vitalis (1075-1143) yr Historiae Ecclesiasticae rhwng y blynyddoedd 1123 a 1141, a hwn oedd gwaith mawr ei oes. Mae'n adrodd hanes y byd Gorllewinol o gychwyn y cyfnod Cristnogol hyd oes yr awdur, ond caiff hanes y Normaniaid yng nghyfnod yr awdur y sylw bennaf. Am ei fod yn frodor o'r Gororau mae hanes arglwyddir'r Mers yn cael sylw arbennig ac felly mae ei lyfr yn ffynhonnell bwysig i haneswyr Cymru. Ceir hanesion ganddo am arweinwyr Cymreig, yn cynnwys Gruffudd ap Cynan, Rhys ap Tewdwr, Bleddyn ap Cynfyn a dau o esgobion Bangor, ac arweinwyr Normanaidd, megis Robert o Ruddlan, Roger, Iarll Amwythig a Walter o Hereford, Arglwydd Y Fenni.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. D. Simon Evans (gol.), Historia Gruffud vab Kenan (Caerdydd, 1977), tud. cxviii.