Pennaeth ar gymuned o leianod sy'n byw mewn abaty a'i swydd yn cyfateb i swydd abad yw abades. Fel teitl mae'r term yn tueddu i gael ei gyfyngu i'r Gristnogaeth, ond gelwir penaethiaid abadai Bwdhaidd yn abadesau hefyd weithiau, e.e. yn achos Bwdhiaeth Tibet.