A Murder of Quality
Oddi ar Wicipedia
Ail nofel John le Carré yw A Murder of Quality, a gyhoeddwyd ym 1962. Mae'n cynnwys yr ysbïwr George Smiley, yr enwocaf o gymeriadau le Carré, er nad oes thema ysbïo i'r nofel hon; yn hytrach nofel ddirgelwch yw hi. Lleolir yn rhannol mewn ysgol fonedd Seisnig ystrydebol o'r enw Carne College. Mae rhai yn credu y cafodd Carne ei ysbrydoli gan Ysgol Sherborne, hen ysgol yr awdur, ond gwada le Carré ei fod yn seiliedig ar unrhyw sefydliad penodol.