A Morbid Taste for Bones
Enghraifft o'r canlynol | gwaith ysgrifenedig |
---|---|
Awdur | Edith Pargeter |
Cyhoeddwr | Macmillan Publishers |
Iaith | Saesneg |
Dyddiad cyhoeddi | 1977 |
Genre | ffuglen dirgelwch, nofel drosedd |
Cyfres | The Cadfael Chronicles |
Olynwyd gan | One Corpse Too Many |
Cymeriadau | Cadfael |
Lleoliad y gwaith | Amwythig, Cymru |
Nofel Saesneg gan Ellis Peters (ffugenw Edith Pargeter) yw A Morbid Taste for Bones ("Blas Morbid ar Esgyrn") a gyhoeddwyd gyntaf yn 1977. Dyma'r ail nofel yn y gyfres am Cadfael, mynach Benedictiad ffuglennol Cymreig a fu’n byw yn ystod y cyfnod o anarchiaeth pan fu brwydro rhwng Stephen a Mathilda am orsedd Lloegr (1138 hyd 1153).
Mae mynachod Abaty Amwythig yn chwilio yng Nghymru am greiriau sant i'w capel. Dewisir gweddillion Gwenffrewi yng Ngwytherin. Mae pobol yr ardal yn gwrthwynebu colli eu creiriau, a darganfyddir arweinydd lleol wedi ei lofruddio. Herir Cadfael i ddwyn cyfiawnder i bob plaid, yng Nghymru ac yn yr Abaty. (Mae trosglwyddo creiriau'r sant i Amwythig yn 1138 yn seiliedig ar ddigwyddiad hanesyddol.)[1]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Ray Spencer, A Guide to the Saints of Wales and the West Country (Llanerch, 1991)