8fed Bataliwn Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig

Oddi ar Wicipedia
8fed Bataliwn Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig
Enghraifft o'r canlynolbataliwn Edit this on Wikidata
Rhan oFfiwsilwyr Brenhinol Cymreig Edit this on Wikidata

Cafodd yr 8fed Bataliwn o'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig ei godi yn Wrecsam ym mis Awst 1914 fel rhan o Fyddin Newydd Gyntaf Kitchener (Saesneg: Kitchener's First New Army). Fe symudwyd y bataliwn dros y Môr Canoldir o’r 13 Mehefin 1915 ymlaen, gan lanio yn Alexandria ac yna symud ymlaen i Mudros erbyn 4 Gorffennaf 2015 i baratoi ar gyfer glaniad Gallipoli yn rhan o Ryfelgyrch y Dardanelles a pharhau i wasanaethu yn Gallipoli, yr Aifft a Mesopotamia.[1]

Y Rhyfel Byd Cyntaf[golygu | golygu cod]

Brwydr Gallipoli 1915

Gallipoli (1915)[golygu | golygu cod]

Roeddent yn gweithredu ym mrwydr Sari Bair, Brwydr Russell's Top a Brwydr Hill 60 yng Nghilgreath ANZAC. Symudwyd y Bataliwn i Fae Sulva yn fuan ar ôl Brwydr Hill 60 a gafwyd ei symud o Sulva i droedle Helles ar y 19 a 20 Rhagfyr 1915 yn dilyn penderfyniad y llywodraeth i ymgilio o Gallipoli oherwydd methiant y rhyfelgyrch a barn y cyhoedd yn y Deyrnas Unedig.

Yn dilyn wythnos o seibiant roeddent yn ymosodiad diwethaf y Twrciaid yn Helles ar y 7fed o Ionawr 1916 a chawsant eu symud ar yr 8fed a'r 9fed.

Yr Aifft (1916)[golygu | golygu cod]

Yn dilyn gadael Twrci cafodd yr Isadran ei ganolbwyntio yn Port Said, Yr Aifft i amddiffyn Camlas Suez.

Mesopotamia (1917)[golygu | golygu cod]

Fe ymunodd y Bataliwn gyda’r lluoedd a oedd yn cael eu casglu i ryddhau'r garsiwn dan warchae yn Kut al Amara ac ymunwyd gyda’r Tigris Corps ar 27 Mai ac roeddent yn rhan o’r ymgais aflwyddiannus i ryddhau Kut. Buodd y bataliwn hefyd mewn gwasanaeth ym Mrwydr Kut al Amara, ‘Cipio Hai Salient’, ‘Cipio of Dahra Bend’ a The passage of the Diyala wrth fynd ar drywydd y gelyn tuag at Baghdad. Syrthiodd Baghdad ar 11 Mawrth 1917, ac unedau o’r isadran oedd y milwyr cyntaf i fynd fewn i’r ddinas.

Parhaodd yr isadran i'r gogledd ar draws Irac wedi iddo ymuno gyda’r Marshar’s Column. Buont yn brwydro yn Delli ‘Abbas, Duqma, Nahr Kalis croesi'r Adhaim ar 18 o Ebrill a pharhau i frwydro yn Shatt al ‘Adhaim. Tua diwedd 1917 roeddent yn rhan o’r ail a thrydedd ymgyrch ar Jabar Hamrin.

1918[golygu | golygu cod]

Erbyn 28 Mai 1918 roedd pencadlys yr Isadran wedi'i symud i Dawalib. [2][3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1914-1918 RWF
  2. The Regimental Museum of The Royal Welsh[dolen marw]
  3. "War Time Memories Project". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-06-18. Cyrchwyd 2015-04-23.