51 Pegasi b

Oddi ar Wicipedia
51 Pegasi b
Enghraifft o'r canlynolplaned allheulol Edit this on Wikidata
Màs0.46 +0.06 -0.01 Edit this on Wikidata
CytserPegasus Edit this on Wikidata
Echreiddiad orbital0.0069 +0.0069 -0.0066 Edit this on Wikidata
Paralacs (π)64.6488 ±0.12 Edit this on Wikidata
Radiws1.9 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

51 Pegasi b (a elwir hefyd yn answyddogol Beleroffon) ydy'r blaned allheulol gyntaf i gael ei darganfod yn cylchio seren debyg i'n Haul ni. Mae'r blaned yn Iau poeth. Mae hi'n cylchio seren 51 Pegasus yng nghytser Pegasws.

Mae Beleroffon yn cymryd pedwar diwrnod i gylchio 51 Pegasus, ac mae cylchdro'r blaned llawer agosach at ei seren nag ydy Mercher at ein Haul ni. Amcangyfrifir fod tymheredd y blaned tua 1000 C, eto mae ganddi hanner y crynswth sydd gan Iau (150 gwaith yn fwy na'r Ddaear). Wrth iddi gael ei darganfod, y cred oedd fod y fath agosatrwydd at seren gan blaned o'i maint yn afreolaidd, ond erbyn hyn mae sawl Iau poeth wedi cael ei ddarganfod ar draws ein galaeth.

Mae radiws y blaned yn fwy na radiws Iau, serch ei chrynswth llai. Mae hynny oherwydd y tymheredd uchel sy'n achosi'r atmosffer i chwyddo. Oddi tano byddai nwyon y blaned yn tywynnu'n goch. Gallai cymylau o silicadau fodoli yn yr awyrgylch.

Mae cylchdro 51 Pegasi b yn gydamserol gyda'r seren. Mae hynny yn golygu bod yr un ochr o'r blaned bob amser yn wynebu'r seren, fel sy'n digwydd yn achos ein lleuad ni.