418 CC
Oddi ar Wicipedia
6ed ganrif CC - 5ed ganrif CC - 4ydd ganrif CC
460au CC 450au CC 440au CC 430au CC 420au CC 410au CC 400au CC 390au CC 380au CC 370au CC 360au CC
[golygu] Digwyddiadau
- Brwydr Mantinea, brwydr fwyaf Rhyfel y Peloponnesos, rhwng Sparta dan ei brenin Agis II ac Argos a'i chyngheiriaid Athen, Ellis a Mantinea), wedi i Argos dorri ei chynghrair a Sparta ar argymhelliad Alcibiades. Mae Sparta yn fuddugol, a lleddir y cadfridog Athenaidd, Laches.
- Wedi buddugoliaeth Sparta, mae pobl Argos yn newid o lywodraeth ddemocrataidd i un oligarchaidd, ac yn troi i gefnogi Sparta.
- Alcibiades yn annog yr Atheniaid i goncro Siracusa ar ynys Sicilia, i ennill adnoddau ychwanegol ar gyfer y rhyfel yn erbyn Sparta.
[golygu] Genedigaethau
- Epaminondas o Thebai, cadfridog a gwladweinydd
- Iphicrates, cadfridog Athenaidd (tua'r dyddiad yma)