281 CC
Oddi ar Wicipedia
4ydd ganrif CC - 3edd ganrif CC - 2il ganrif CC
330au CC 320au CC 310au CC 300au CC 290au CC 280au CC 270au CC 260au CC 250au CC 240au CC 230au CC
Digwyddiadau [golygu]
- Brwydr Corupedium yn Lydia, y frwydr olaf rhwng y Diadochi, olynwyr Alecsander Fawr. Ymleddir y frwydr rhwng Lysimachus, brenin Thrace a Macedonia, a Seleucus, rheolwr dwyrain Anatolia, Syria, Ffenicia, Judaea, Babylonia ac Iran. Lleddir Lysimachus yn y frwydr.
- Wedi cipio Thrace, mae Seleucus yn ceisio cipio Macedonia, ond ger Lysimachia yn Thrace, llofruddir ef gan Ptolemi Keraunos, sy'n cymeryd gorsedd Macedonia ei hun.
- Olynir Seleucus fel brenin yr Ymerodraeth Seleucaidd gan Antiochus.
Genedigaethau [golygu]
Marwolaethau [golygu]
- Lysimachus, brenin Thrace a Macedonia
- Seleucus I Nicator, brenin Syria ac Iran, sefydlydd yr Ymerodraeth Seleucaidd