.cym
Ymgyrch a sefydlwyd ym mis Ionawr 2006 i ennill parth gwefannol i 'gymuned ieithyddol a diwylliannol y Gymraeg' yw .cym (hefyd dotcym). Bellach defnyddir dotCYMRU.
Defnyddir y talfyriad CYM am y Gymraeg gan mai dyma yw cydnabyddiaeth swyddogol ISO 639-2 alpha-3 yr iaith.
Cred yr ymgyrchwyr y bydd ennill yr hawl i roi .cym ar ddiwedd cyfeiriad gwefan yn codi statws y Gymraeg ac yn arwain at ragor o ddefnydd o'r Gymraeg ac adnoddau Cymraeg ym maes technoleg gwybodaeth. Honnant y byddai .cym hefyd yn rhoi statws ac yn fynegiant gweledol i fodolaeth y Gymraeg a Chymreictod.
Ysbrydolwyd yr ymgyrch wedi llwyddiant ymgyrch puntCAT y Catalaniaid i ennill statws i'w cymuned ieithyddol a diwylliannol hwy (.cat).
Oherwydd rheolau newydd gan y corff byd-eang dros barthau rhyngrwyd (ICANN) yn 2010 bu'n rhaid hepgor y dewis enw, CYM, oherwydd iddo gyd-daro â côd tair llythyren ar gyfer Ynysoedd y Cayman. Yn dilyn trafodaeth agored lle gwahoddwyd y cyhoedd i awgrymu eu hoff enw parth ar gyfer y gymuned Gymreig a Chymraeg, dewiswyd dotCYMRU ym mis Tachwedd 2010.
Bellach, yn enw dotCYMRU [1] y bydd y cais yn cael ei chyflwyno i ICANN.
Mae dotCYMRU (dotCYM gynt) yn un o sylfaenwyr partneriaeth o geisiadau dros barthau ieithyddol a diwylliannol gorllewin Ewropeaidd, ECLIC [2] . Sefydlwyd ECLID er mwyn lobio dros y parthau hyn ac er mwyn ceisio prysuro'r broses o gynnig cais ar ran parthau ieithyddol a diwylliannol.