'Tis Pity she's a Whore

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Mae 'Tis Pity She's a Whore yn trasiedi gan John Ford. Yn ôl bob tebyg fe'i pherfformwyd cyntaf rhwng 1629 a 1633,[1] gan Queen Henrietta's Men yn y Cockpit Theatre. Fe'i chyhoeddwyd ym 1633, ac argraffwyd gan Nicholas Okes ar gais y llyfrwerthwr Richard Collins. Cyflwynwyd Ford ei ddrama i John Mordaunt, 1af Iarll Peterborough a Baron Turvey.

Ym 1661 welodd Samuel Pepys perfformiad yn y Salisbury Court Theatre. Ceir trosiad i'r ffrangeg ym 1894 gan Maurice Maeterlinck dan enw ei phrif gymeriad Annabella, a'i chynhyrchu yn y Théâtre de l'Œuvre.[2]

Pwnc Llosg[golygu]

Pwnc llosg go iawn sydd yma am fod llosgach ei brif thema, ac roedd yn sgandal yn ei hamser.[3] Dileuwyd hi o gasgliad 1831 dramâu Ford. Tan yr ungeinfed ganrif - ac o hyd - mae'r testun y codi gwrychyn y beirniaid. Does dim condemniad o'r cymeriadau - er eu bod nhw ill dau yn farw erbyn y diwedd. "Instead of stressing the villainy, Ford portrays Giovanni as a talented, virtuous, and noble man who is overcome by a tumultuous passion that brings about his destruction."[4] Er bod ein ganrif ni'n agored o leiaf i drafod y pwnc mae cusan Brawd a Chwaer ar lywfan yn brofoclyd o hyd.

Braslun[golygu]

Mae Giovanni yn dychwelyd o brifysgol Bologna, ac mae e dros ei ben a'i glustiau mewn cariad a'i chwaer hardd Annabella. Wedi trafod ei gariad efo'r Brawd Bonaventura mae Bonaventura yn ceisio troi ei feddwl. Dan ddylanwad y rhesymeg mae wedi cael o Bologna mae Giovanni yn dal at ei syniadau.

Mae Annabella, sydd nawr wedi dod i oed priodi, yn caru ei brawd hefyd, mi ddaw dynion i'w chanlyn sef; Bergetto, Grimaldi and Soranzo. Mae hi'n gwrthod pob un ac yn cyffesu wrth ei chydymaith Putana - yn syndod i bawb mae Putana yn rhoi sêl ei bendith ar y perthynas llosgachol. Mae'r pâr yn caru yn nwydwyllt yn nhŷ eu tad.

Mae'r tri darpar ŵr iddi yn cynllwyno a ffraeo rhyngddynt, lleddir un, ac un arall yn dod o hyd i ferch addasach ond mae Anabella yn cytuno i briodi'r trydydd. (Ond yn parhau ag ei pherthynas efo ei brawd). Cun diwrnod y briodas ddaw yn amlwg ei bod hi'n feichiog efo plentyn ei brawd ac mae eu gŵr newydd yn mynd yn wyllt. Mae'r gwas ffyddlon Vasques yn dialu mewn ffordd erchyll ar Putana ar ôl cael y stori lawn ohoni. Mae Annabella yn ceisio rhybuddio ei brawd rhag lid ei gŵr ond mae Giovanni yn mynnu dod i'r briodas - lle mae'n cael cyfathrach efo ei chwaer ar ei gwely priodas, ac wedyn yn ei lladd hi. Efo ei chalon ar big ei gyllell mae'n dychwelyd i'r parti priodas a chyffesu'r cwbl. Mae Vasques a'i Banditti yn ei ladd e o flaen pawb. Daw y ddrama i ben gyda'r Cardinal yn gorchymyn bod Putana i losgu wrth y stanc a thros gorff gwaedlyd Anabella mae'r Cardinal yn datgan amdani "who could not say, 'Tis pity she's a whore?"

Cymeriadau[golygu]

  • Dynion
    • Brawd Bonaventura — Brawd crefyddol a chyfeswr i Giovanni's
    • Cardinal — Nuncio i'r Pab
    • Soranzo — Bonheddwr (darpar-ŵr Annabella ac wedyn ei ŵr)
    • Florio — Dinesydd Parma, a thad Annabella a Giovanni
    • Donado — Dinesydd Parma, ac ewythr Bergetto
    • Grimaldi — Bonheddwr o Rufain (darpar-ŵr Annabella)
    • Giovanni — Mab Florio (enw pedairsill ydyw)
    • Bergetto — Nai Donado (darpar-ŵr Annabella ac wedyn dyweddi Philotis )
    • Richardetto — Gŵr Hippolita, ewythr Philotis -ond yn cogio bod yn feddyg enwog
    • Vasques — Gwas ffyddlon Soranzo, sbaenwr
    • Poggio — Gwas Bergetto
    • Banditti — Llofruddwr, giang treislon
    • Swyddogion
  • Gwragedd
    • Annabella — Merch Florio
    • Hippolita — Gwraig Richardetto (a chy-cariad Soranzo)
    • Philotis — Nith Richardetto (wedyn dyweddi Bergetto)
    • Putana — Cydymaith a 'chaperone' Annabella (mae'r enw yn golygu Putain)

Mewn dramâu a ffilmiau eraill[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Terence P. Logan and Denzell S. Smith, The Later Jacobean and Caroline Dramatists, Lincoln, NE, University of Nebraska Press, 1978; p. 141.
  2. "John Ford" o'r Encyclopædia Britannica Eleventh Edition
  3. Logan and Smith, p. 127.
  4. Mark Stavig, John Ford and the Traditional Moral Order, Madison, WI, University of Wisconsin Press, 1968; p. 95.

Dolennau Allanol[golygu]