Şanlıurfa

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Şanlıurfa

Dinas yn ne-ddwyrain Twrci yw Şanlıurfa neu Urfa (Cwrdeg: Riha), hen enw Edessa. Hi yw prifddinas talaith Şanlıurfa, Roedd y boblogaeth yn 390,000 yn 2004.

Saif y ddinas mewn lleoliad strategol pwysig, ar y llwybr masnach rhwng Anatolia a gogledd Mesopotamia, ar wastadedd ffwwythlon gyda mynyddoedd yn ei hamgylchynu ar dair ochr. Cipiwyd hi gan Alecsander Fawr, a'i hail-enwodd yn Edessa ar ôl Edessa ym Macedonia. Yn y 3edd ganrif OC, daeth yn ganolfan teyrnas Osrhoene.