Évreux

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Eglwys Gadeiriol Notre-Dame, Évreux

Évreux yw prifddinas département Eure yn région Haute-Normandie yng ngogledd Ffrainc. Hi yw dinas trydydd-fwyaf Haute-Normandie, gyda poblogaeth o 51,485 yn 2007.

Daw'r enw Évreux o enw llwyth Galaidd yr Eburovices. Yn y cyfnod Rhufeinig, enw'r ddinas oedd Mediolanum Aulercorum. Adeiladwyd mur o'i chwmpas tua diwedd y 3edd ganrif. Yn 989 daeth yn lleoliad Dug Évreux ac Esgob Évreux.